Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                      Nodir y pwynt. Gwall teipograffyddol yw hwn a dylai ddarllen “55” ac nid “55a”. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud fel y’i nodir yn y tabl isod.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 2:                      Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio fel y’i nodir isod cyn eu gwneud, er mwyn sicrhau bod y term diffiniedig yn cael ei ddefnyddio drwyddi draw.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 3:                      Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud, fel y’i nodir yn y tabl isod, er mwyn mynd i’r afael â hyn.

 

Pwynt Craffu Technegol 4:                      Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud, fel y’i nodir yn y tabl isod.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 5:                      Nodir y pwynt. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn bod y cyfieithiad yn amwys. Er y gellid bod wedi ysgrifennu strwythur y frawddeg hon fel yr awgrymir, nid ydym yn derbyn bod y fersiwn wreiddiol yn ddiffygiol.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 6:                      Nodir y pwynt. Byddwn yn sicrhau bod y Rheoliadau yn cael eu diwygio cyn eu gwneud, fel y'i nodir yn y tabl isod.

 

 

Pwynt Craffu Technegol 7:                      Nodir y pwynt. Fodd bynnag rydym yn fodlon mai’r gair “bennu” yw’r cyfieithiad cywir o “determining” ac “establishing”. Nid ydym o’r farn bod angen “gadarnhau”.

 

 

 

 

 

 

 

 

Cywiriadau drafftio technegol i’w gwneud cyn i’r Rheoliadau gael eu gwneud

CYWIRIADAU A WNEIR I’R TESTUN CYMRAEG CYN GWNEUD

CYWIRIADAU A WNEIR I’R TESTUN SAESNEG CYN GWNEUD

Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023

The Prohibition on the Incineration, or the Deposit in Landfill, of Specified Waste (Wales) Regulations 2023

Bydd y cyfeiriad at “55a” yn y rhaglith i’r Rheoliadau yn cael ei ddisodli gan “55”

Bydd y cyfeiriad at “55a” yn y rhaglith i’r Rheoliadau yn cael ei ddisodli gan “55”

Ym mhenawdau Rhan 3 a rheoliad 4, bydd y cyfeiriadau at “Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016” yn cael eu disodli gan “Reoliadau 2016”.

Yng nghorff testun rheoliad 4(1), bydd y cyfeiriadau at “Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016” yn cael eu disodli gan “Rheoliadau 2016”.

Ym mhenawdau Rhan 3 a rheoliad 4, a hefyd yng nghorff testun rheoliad 4(1), bydd y cyfeiriadau at “the Environmental Permitting Regulations (England and Wales) Regulations 2016” yn cael eu disodli gan “the 2016 Regulations”.

Yn yr Atodlen, ym mharagraffau 6(c) ac 16(c), bydd “gellir” yn cael ei ddisodli gan “caniateir”

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 11(1), bydd “ganfyddir” yn cael ei ddileu

 

Yn yr Atodlen, ym mharagraffau 25(2) a (3), bydd “ym mharagraff” yn cael ei ddisodli gan “yn is-baragraff”.

Yn yr Atodlen, ym mharagraff 28(2), bydd “Ym mharagraff” yn cael ei ddisodli gan “Yn is-baragraff”.

Yn yr Atodlen, ym mharagraffau 25(2) a (3) ac 28(2), bydd “paragraph” yn cael ei ddisodli gan “sub-paragraph”.

Bydd mân faterion fel fformatio, mân newidiadau i’r nodyn esboniadol a’r troednodiadau a chywiro gwallau teipograffyddol hefyd yn cael eu cywiro cyn gwneud